gan E. Wyn James
              Cyhoeddwyd gyntaf yn Taliesin, 57 (Hydref 
                1986), tt. 8-19. ISSN 0049-2884.
              Hawlfraint © E. Wyn James, 1986, 2009
              
              Yn yr erthygl ddiweddaraf yn ei gyfres ddiddorol 
                ar hynt a helynt yr anterliwt (‘Henaint a Thranc yr Anterliwt’, 
                Taliesin, 54, Nadolig 1985), rhydd Mr G. G. Evans ychydig 
                enghreifftiau o rai yn cael tröedigaeth a hynny’n peri 
                iddynt roi heibio anterliwtio (t.26). Yna, â Mr Evans yn 
                ei flaen i ddyfynnu hanesyn a adroddir gan John Hughes, Pontrobert, 
                yn ei gofiant i Abraham Jones, Llanfyllin, sy’n sôn 
                am Abraham Jones yn llwyddo i atal perfformio anterliwt yn Llanfyllin 
                un dydd Llun y Pasg yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg 
                trwy gyfrwng pregeth rymus.
              Wrth nodi’r enghreifftiau o anterliwtwyr 
                yn cael tröedigaeth – a’r rheini’n cynnwys 
                yr emynwyr Methodistaidd adnabyddus, Hugh Jones, Maesglasau, ac 
                Edward Parry, Llansannan – dywed Mr Evans y byddai ymchwilio 
                i gofiannau a chyfrolau ar hanes ‘achosion’ crefyddol 
                yn dwyn rhagor o enghreifftiau i’r rhwyd. Cyd-ddigwyddiad 
                diddorol, o gofio fod Mr Evans yn ei ddyfynnu yn y paragraff sy’n 
                dilyn y rhestr hon o enghreifftiau, yw fod y gweinidog a’r 
                emynydd Methodistaidd, John Hughes, Pontrobert, yntau yn enghraifft 
                o un a drodd ei gefn ar yr anterliwt yn sgil tröedigaeth. 
              
              John Hughes, Pontrobert
               Brodor o blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, yn yr 
                hen sir Drefaldwyn, oedd John Hughes (1775–1854), a bu’n 
                byw yn y cyffiniau ar hyd ei oes faith. Y mae yn fwyaf adnabyddus 
                fel cyfaill a chofiannydd yr emynyddes Ann Griffiths, a bu’n 
                ffigur dylanwadol iawn ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, yn 
                enwedig yn ei sir enedigol. Fe’i ganed yn ardal Braich-y-waun, 
                ychydig i’r gogledd o Eglwys Plwyf Llanfihangel, mewn bwthyn 
                bach o’r enw ‘Y Figyn’. Digon tlawd fu ei amgylchiadau 
                yn ifanc (ac yn wir, ar hyd ei oes). Adroddir hanesyn am y John 
                Hughes ifanc yn actio mewn anterliwt yn ardal Cyffin, a’r 
                Cybydd yn gofyn iddo ‘Pwy wyt ti?’ Atebodd gyda’r 
                cwpled a ganlyn:
               
                 Bachgen wyf a fagwyd yn y Figyn,
                  A bara haidd, a hwnnw braidd yn brin. 
              
              Yn Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y Ddeunawfed 
                Ganrif (1931), dywed Erfyl Fychan am chwaraewyr yr anterliwtiau 
                mai ‘dynion heb addysg oeddynt, bechgyn rhyw blwyf neu ardal 
                yn penderfynu dysgu anterliwd ac yna yn myned hyd y wlad i’w 
                chwarae’ (t.131; a cf. Gwŷr Llên y Ddeunawfed 
                Ganrif, gol. Dyfnallt Morgan, 1966, tt.147–8). Mae’n 
                wir mai ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd John Hughes. Yn 
                ei eiriau ef ei hun: ‘Cefais beth ysgol hynod o wael. Dysgais 
                ddarllain Saesnaeg heb ddeall dim ohono, a phan ddysgais ddarllain 
                Cymraeg, ni wnais sylw o’r Saesnaeg am lawer blwyddyn.’ 
                Mae’n wir hefyd mai wedi ei dröedigaeth yr aeth ati 
                o ddifrif calon i’w addysgu ei hun. Er enghraifft, dywed 
                yn nes ymlaen yn yr un darn hunangofiannol mai ychydig amser wedi 
                iddo ddechrau pregethu yn 1802 yr ymegnïodd ‘i ddysgu 
                deall yr iaith Saesnaeg, yr hon trwy lafur a ddeuais i’w 
                deall yn weddol, er na fedraf areithio dim ynddi’. Ond nid 
                yn hollol ddiaddysg mohono ychwaith yn ei gyfnod fel anterliwtiwr. 
                Gwelir o’r dyfyniadau uchod, er enghraifft, ei fod wedi 
                dysgu darllen Cymraeg, a bod ganddo rywfaint o grap ar y gynghanedd. 
                Dwy o nodweddion amlycaf ei fywyd wedi ei dröedigaeth oedd 
                ei awydd am addysg a’i weithgarwch barddonol, ac er eu bod 
                yn cael eu sianelu i gyfeiriadau braidd yn wahanol, gwelir yr 
                un nodweddion yn union yn dod i’r golwg yn ei gymeriad cyn 
                ei dröedigaeth.
              Mae’n amlwg fod cryn adfywiad llenyddol 
                yn ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa ym mlynyddoedd ieuenctid John 
                Hughes. Wrth ddisgrifio’r ardal honno ar ddiwedd y ddeunawfed 
                ganrif, dywed John Morgan, Yr Wyddgrug, fod yno ‘y pryd 
                hyny ryw awyr o farddoniaeth yn rhedeg trwy bobpeth, a phawb yn 
                teimlo oddiwrth ei hysbrydiaeth’ (Y Drysorfa, 1898, 
                t.360). Gellir enwi nifer o feirdd gwlad a ffynnai yn yr ardal 
                yn y cyfnod, dynion megis Harri Parri (1709–1800) o Graig-y-gath 
                ac Evan Williams, clochydd Eglwys Llanfihangel. Nid nepell i ffwrdd, 
                wedyn, yn Llangadfan, yr oedd yr hynafiaethydd radical a’r 
                bardd, William Jones (1726–95), Dôl Hywel.
              Rhwng y cwbl, felly, nid yw’n annisgwyl 
                gweld y John Hughes ifanc, yntau, yn troi ei law at brydyddu. 
                Anfonodd awdl ar y testun ‘Rhyfel’ i Eisteddfod y 
                Gwyneddigion yn Nolgellau yn 1794, ac un arall ar yr un testun 
                (yr un awdl?) i’w heisteddfod yn y Wern, Penmorfa, Eifionydd 
                y flwyddyn ddilynol. Ysywaeth, ni fu’n llwyddiannus iawn. 
                Barn y beirniaid yn 1794 (a William Jones, Dôl Hywel, yn 
                eu plith) ar waith y pedwar cystadleuydd oedd eu bod oll ‘yn 
                dra beius’, a bu dyfarniad tebyg yn 1795. Teg yw casglu 
                felly, er ei awydd, nad un yn disgleirio fel bardd mo’r 
                John Hughes ifanc! 
              Parhaodd i ganu rhyw gymaint ar y mesurau caeth 
                ar hyd ei fywyd. Gwelais ychydig ddarnau ganddo ar fesur cywydd 
                a rhyw ddwsin o englynion. Ond mae’n rhaid cyfaddef nad 
                yw yn gynganeddwr o’r radd flaenaf. Ar gyfartaledd, mae 
                un o bob chwe llinell ganddo yn wallus ei chynghanedd, ac mae’r 
                mynegiant yn y cerddi caeth yn ddigon trwsgl yn aml. Ac eto yn 
                eu plith ceir hefyd, yn fy marn i, beth o gynnyrch barddonol gorau 
                John Hughes, megis yr englyn hwn am Iesu Grist a ysgrifennwyd 
                tua’r flwyddyn 1800:
               Ffynnon a gawson o gysur – ’n y brawd 
                
                A briododd ein natur;
                Mae fe’n briod parod pur,
                A cheidwad i bechadur.
              Ar wahân i’r cwpled (byrfyfyr?) o’r 
                anterliwt a ddyfynnwyd uchod, dim ond un darn arall o waith barddonol 
                John Hughes sydd wedi goroesi o’r cyfnod cyn ei dröedigaeth 
                (hyd y gwn i), sef englyn ar agoriad Neuadd y Dref yn Llanfyllin, 
                a adeiladwyd yn 1791 ac a gynhwysai farchnad o fewn ei muriau 
                (gw. D. Alun Lloyd, Gwinllan fy Hynafiaid, 1968, t.45): 
              
               Dadldy i brynu i’n bob rhaid – fuddiol
                A fyddo anghenraid.
                Lluniaeth, bywoliaeth heb baid, 
                Perthynol – ond porth enaid.
              Yr oedd yr anterliwt yn perthyn i’r un cylchoedd 
                diwylliannol â’i gynnyrch barddonol cynnar. Mae’n 
                amlwg o’r cwpled o’i eiddo a ddyfynnwyd uchod fod 
                John Hughes yn actio mewn anterliwtiau, a cheir sôn amdano’n 
                cyfansoddi rhai ei hun hefyd. Dyma a ddywed cylchgrawn Y Methodist 
                ar y mater mewn ysgrif goffa iddo yn 1854 (t.86):
               
                Amlygodd radd o athrylith yn ieuanc iawn. Arferai, er yn fachgen, 
                  gyfansoddi ambell i rigwm; ac yr oedd yn lled fedrus ar actio 
                  interlutes, yr hyn a wnaeth yn fynych. Er ei fod yn fachgen 
                  gwyllt, cafodd ei gadw rhag tyngu, a rhag arfer geiriau masweddol, 
                  a rhag pechodau rhyfygus eraill; ond er hyny nid oedd a fynai 
                  nemawr â gwrando yr efengyl.
              
              A dyma sydd gan Evan Davies, Trefriw, i’w 
                ddweud ar y pwnc (Cymru, cyf. 30, 1906, t.327):
               
                Yr oedd tuedd ynddo er yn fore at brydyddu, a chyfansoddodd 
                  rai ysmalwawdiau (interludes) yr adeg honno, a bu bechgynos 
                  tebyg iddo ei hun yn chwareu y rhai hyn, yn fwy er mwyn difyrrwch 
                  nag elw.
              
              Ond daeth tro ar fyd. Bu adfywiad arall yn ardal 
                ei gartref yn nawdegau’r ddeunawfed ganrif – un crefyddol 
                – a bu John Hughes yn gyfrannog o hwnnw hefyd. Daeth amser 
                pryd y mynnai wrando’r efengyl, ac o’i chlywed, cafodd 
                dröedigaeth. Yn haf 1796 y bu hynny, a daeth yn aelod gyda’r 
                Methodistiaid Calfinaidd yn fuan wedyn. Newidiwyd cyfeiriad ei 
                fywyd yn llwyr, a gwelir hynny yn amlwg yn ei newid agwedd tuag 
                at yr anterliwt. ‘Chwareuyddiaeth gwageddus, ac ynfyd’ 
                ydyw yn ei olwg erbyn iddo ysgrifennu ei gofiant i Abraham Jones 
                yn 1840. Dyma enghraifft arall, felly, o’r hyn a eilw Mr 
                G. G. Evans ‘yr archoll fwyaf tyngedfennol a gafodd yr anterliwt, 
                sef colli’i hysgrifenwyr i gyfryngau mynegiant eraill’.
              Twm o’r Nant
                Digon gwrthwynebus i Fethodistiaeth newydd John Hughes fyddai 
                ei gydnabod yng nghylchoedd y Gwyneddigion ac ymhlith cynheiliaid 
                yr hen ddiwylliant gwerinol. Cyhoeddodd Harri Parri, Craig-y-gath, 
                er enghraifft, englynion ar y testun ‘Ceryddiad difrifol 
                i’r Methodistiaid’ yn almanac Gwilym Howell yn 1774, 
                a bu William Jones, Dôl Hywel, yntau, yn defnyddio ei awen 
                i chwipio’r Methodistiaid. Yn ei thraethawd buddugol yn 
                Eisteddfod Powys 1972 ar hanes cymdeithasol plwyfi Garthbeibio, 
                Llangadfan a Llanerfyl, dyfynna Lona Gwilym ran o gerdd gan William 
                Jones yn ymosod ar y seiadwyr Methodistaidd a oedd yn ‘dwad 
                […] i deios / I gadw’u nâd gwedi nos’ 
                (ac yn eu plith, mae’n debyg, brawd Abraham Jones, Llanfyllin 
                – ‘John Jones y Neidiwr’, fel y gelwid ef). 
                O gofio hyn, doniol yw darllen i William Jones, Dôl Hywel, 
                fethu cael llety yn Rhuthun rywdro am ei fod yn ymddangos yn rhy 
                debyg i bregethwr Methodist! O’i ran yntau hefyd, newidiodd 
                John Hughes ei gylchoedd cymdeithasol a diwylliannol. Ymwrthododd 
                yn llwyr â’r anterliwt ac â gweithgarwch cyffelyb, 
                er iddo, fel y nodwyd uchod, barhau i ganu rhyw gymaint ar y mesurau 
                caeth a ddysgodd yn ei ieuenctid digrefydd.
              Un o’r eithriadau mawr yng nghylchoedd yr 
                anterliwt yn ei agwedd tuag at y Methodistiaid, yn rhyfedd ddigon, 
                oedd y pen-anterliwtiwr ei hun, Twm o’r Nant (Thomas Edwards, 
                1739–1810). Yn ddiddorol iawn yn y cyd-destun presennol, 
                bu ef yn byw yn Nolobran, gerllaw Pontrobert, am gyfnod byr yn 
                1779. Croesodd gleddyfau barddol ag Evan Williams y clochydd a 
                Harri Parri (cyhoeddwyd cerddi ymryson rhwng Twm a’r clochydd 
                yn Cymru, cyf. 34, 1908, tt.216–17); ac yn ôl 
                Dr Enid Pierce Roberts, ‘Dangosir yn Hen Dafarn, Pontrobert, 
                y setl a ddefnyddid ganddo fel llwyfan [i chwarae anterliwt arni], 
                a’r ddolen haearn ynddi lle byddid yn ei bachu â chadwyn 
                wrth goeden rhag i’r gwrandawyr ei dymchwel’ (Braslun 
                o Hanes Llên Powys, 1965, t.72; cf. Y Ferch o Ddolwar 
                Fach, gol. Dyfnallt Morgan, 1977, t.6). Cyn hir aeth am y 
                De, i Ddyffryn Tywi, gan symud yn ôl i’w hen gynefin 
                yn Nyffryn Clwyd yn 1786. 
              Bu gan Twm rywfaint o gysylltiadau Methodistaidd 
                o gyfnod eithaf cynnar yn ei fywyd. Ysgrifennai anterliwtiau a 
                pherfformio ynddynt er yn gynnar iawn. Ond tua 1760, rhoddodd 
                y gorau i anterliwtio, gan daflu ei gap cybydd i afon Conwy, ‘oblegid 
                euogrwydd cydwybod, a hefyd fy mod yn caru merch ag oedd yn tueddu 
                at grefydd’; ac adeg ei marw yn 1808 yr oedd y ferch honno, 
                gwraig Twm o 1763 ymlaen, yn aelod gyda’r Methodistiaid 
                Calfinaidd yn Ninbych. 
              Hwyrach nad cyd-ddigwyddiad ydyw mai 1759 yw dyddiad 
                y garol blygain gyntaf o eiddo Twm sydd gennym ar glawr, sef yr 
                union gyfnod y trodd ei gefn ar yr anterliwt. Mae nifer o garolau 
                a ysgrifennwyd ganddo yn y chwedegau cynnar wedi goroesi mewn 
                llawysgrif, a diddorol hefyd yw gweld Twm yn 1764 yn cyhoeddi 
                cyfieithiad digon ystwyth o lyfr crefyddol, Y Perl Gwerthfawr, 
                ar y cyd ag Edward Parry, Llansannan, a David James, un o ysgolfeistri 
                Griffith Jones, Llanddowror – llyfr yr oedd nod efengylu 
                pendant y tu ôl i’w gyhoeddi, fel sy’n amlwg 
                o’r anogaethau taer ynddo i anghredinwyr gofleidio’r 
                efengyl Gristnogol. Ond y mae’r carolau fel petaent yn prinhau 
                wrth nesu at ganol y degawd. Yna, yn 1766, oherwydd problemau 
                ariannol, mae Twm yn troi yn ôl at yr anterliwt er mwyn 
                ychwanegu at ei incwm. O hynny hyd 1769 cyfansoddai anterliwtiau 
                yn rheolaidd, a’r rheini heb fod ymhlith ei gyfansoddiadau 
                mwyaf llednais. Ond, er hynny, pwysleisia Dr Glyn Ashton fod Twm 
                yn ei waith yn wahanol i weddill yr anterliwtwyr ‘yn gymaint 
                ag nas ceir ef yn rhedeg ar y Methodistiaid’.
              Rhoddodd y gorau i’r anterliwt unwaith yn 
                rhagor tua 1770, a hwyrach eto nad yw’n gyd-ddigwyddiad 
                ei fod (fe ymddengys) yn ailgydio yn y garol blygain tua’r 
                un adeg, a’r rheini’n amlhau wrth i’r saithdegau 
                dynnu i’w terfyn. Dengys ei garolau fod gan Twm ddealltwriaeth 
                glir o brif fannau’r ffydd Gristnogol. Dangosant hefyd ei 
                fod yn bur gyfarwydd â’i Feibl, a gwelir yr un cynefindra 
                â’r Ysgrythur yn ei anterliwtiau (gweler, er enghraifft, 
                y rhestr helaeth o gyfeiriadau ysgrythurol yn ei anterliwt Tri 
                Chryfion Byd a nodir gan David Thomas yn Yr Eurgrawn, 
                cyf. 131, 1939, tt.108–13, 145–9). Ond ceir mwy na 
                gwybodaeth foel ynddynt hefyd, oherwydd nid yw Twm byth yn bodloni 
                yn ei garolau ar adrodd ffeithiau’r ffydd yn unig – 
                ‘Nid hanes CRIST fel hên Histori, / A wna’n 
                bresennol fawr lês ini’, meddai yn un ohonynt – 
                ac, yn Fethodistaidd ddigon, pwysleisia’n gyson ynddynt 
                yr angen am adnabyddiaeth bersonol o’r Crist byw. Anogir 
                ei wrandawyr i fod yn wahanol i drigolion Bethlehem gynt a rhoi 
                llety i’r Iesu, sef lle yn eu calonnau.
              Ceir bwlch o dros bymtheng mlynedd yn ei gyfansoddi 
                anterliwtiau. Ond wedi iddo ddychwelyd o’r De ‘estron’ 
                i wlad yr anterliwt yn 1786, fe welir Twm o’r Nant yn ailgydio 
                yn y grefft – a hynny unwaith eto am resymau ariannol. O 
                gymharu’r anterliwtiau a gyfansoddwyd wedi iddo ddychwelyd 
                o’r De a’r rhai cynharach, gwelir fod dylanwad crefydd 
                yn llawer mwy amlwg ar waith Twm erbyn diwedd yr wythdegau. Fel 
                y noda Mr G. G. Evans, mae’r iaith fras a’r cyfeiriadau 
                anllad wedi lleihau erbyn anterliwtiau’r cyfnod hwn, a’r 
                dadleuon moesol a’r anogaethau duwiolfrydig wedi cynyddu. 
              
              Y dylanwad pwysicaf arno yn y cyfeiriad hwn, yn 
                ôl pob sôn, oedd ei wraig o Fethodist. Ond gellir 
                nodi rhai pethau eraill a gyfranasai at y newid ym mlynyddoedd 
                y bwlch. Un digwyddiad, heb os, a fu’n gyfrwng i’w 
                ddifrifoli’n ysbrydol oedd y waredigaeth ryfeddol a gafodd 
                adeg damwain ddifrifol wrth bont Rhuddlan tua 1778 (gweler y gân 
                a ganodd i’r achlysur hwnnw, a gynhwysir yn ei gasgliad, 
                Gardd o Gerddi); a chafodd waredigaeth ryfeddol arall 
                tra oedd yn llwytho pren yng nghoed Maes-y-plwm. Dichon hefyd 
                fod ei arhosiad yn awyrgylch mwy Methodistaidd sir Gaerfyrddin 
                yn ystod yr wythdegau wedi chwarae rhan yn y newid (gw. Bobi Jones, 
                I’r Arch, 1959, tt.61–2). Mae’n ddiddorol 
                nodi mai yng ngwasg Trefeca yr argraffwyd unig gyfrol barddoniaeth 
                Twm, Gardd o Gerddi (1790) – ‘un o lyfrau 
                pwysicaf a mwyaf arwyddocaol y ganrif’, yn ôl Dr Glyn 
                Ashton – ac mae’n amlwg ei fod yn cael croeso yn Nhrefeca, 
                gan fod ym meddiant Twm gopi o salmau Edward Kyffin, a gafodd 
                pan oedd ar ymweliad yno gan un o ‘deulu’ Methodistaidd 
                Trefeca a oedd yn frodor o sir Ddinbych.
              Ond beth bynnag oedd yr union resymau ac amgylchiadau, 
                mae’n wir dweud i Twm gael ‘ei dynnu fel yr heneiddiai 
                yn nes bob blwyddyn at y Methodistiaid’ (chwedl Mr G. G. 
                Evans). Ac ymddangosiad cyhoeddus olaf Twm cyn ei farw oedd yng 
                nghapel y Methodistiaid yn Nhremadog adeg ei agor yn Chwefror 
                1810, ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth. Thomas Charles a arweiniai 
                wasanaeth y bore yn ei wenwisg glerigol, gan ddarllen gwasanaeth 
                yr eglwys wladol cyn traddodi pregeth yn Saesneg ‘gan nad 
                faint oedd yn ei ddeall ac yn cael bendith’ (Cymru, 
                cyf. 45, 1913, t.160; ar yr achlysur gweler hefyd Gomer M. Roberts 
                (gol.), Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, cyf. 2, 
                1978, tt.367–8, a’r Casglwr, Nadolig 1985, 
                t.2). Yn y sêt fawr, cafwyd rhes o hoelion wyth yr Hen Gorff 
                – John Elias, Michael Roberts, Pwllheli, a’i dad, 
                John Roberts, Llangwm, John Jones, Edern, Robert Jones, Rhos-lan, 
                Evan Richardson, Caernarfon, a John Jones, Tremadog – ynghyd 
                â rhoddwr y tir, W. A. Madocks, ac wrth ei ochr, Twm o’r 
                Nant.
              Ond, er iddo nesu o flwyddyn i flwyddyn at y Methodistiaid 
                (ac ymuno â hwy yn swyddogol ychydig cyn diwedd ei oes, 
                yn ôl y sôn), ni fyddai’n iawn meddwl am Twm 
                o’r Nant fel Methodist ychwaith. Er cael ei dynnu atynt, 
                ni fynnai ymryddhau o’i hen lwybrau yn llwyr. Ar un olwg, 
                mae disgrifiad R. Williams Parry o A. E. Housman, ‘Nid eistedd 
                gyda’r union-gred, / Na chyda’r anghred ynfyd’, 
                yn un cymwys iddo yntau hefyd. Perthyn Twm i ddau draddodiad, 
                i ddau fyd yn wir, heb berthyn i’r naill na’r llall 
                yn iawn. Deufor-gyfarfod dau ddiwylliant a dwy ffordd o feddwl 
                yw Twm o’r Nant, sef hen fywyd gwerinol y ddeunawfed ganrif 
                a’r bywyd crefyddol newydd angerddol yr oedd gwerin Cymru 
                yn ei gofleidio wrth y cannoedd. 
              Roedd ei sefyllfa yn rhwym o greu tyndra ac anesmwythyd 
                iddo ef ei hun ac i’w gydnabod o’r ddwy ochr. Parhaodd 
                i gyfeillachu â’r beirdd ar hyd ei oes, ac i ymdroi 
                yng nghylchoedd y Gwyneddigion. Ond yr oedd y rheini, fel y gellid 
                disgwyl, yn anesmwytho’n fawr oherwydd ei dueddiadau Methodistaidd. 
                Ys dywedodd Jac Glan-y-gors yn 1798: ‘Mae’r Beirdd 
                y’mron wylo, weled eu Hathro [Twm] / Yn cym’ryd ei 
                d’wyso gan y Methodistied.’ Nid ymwrthodai Twm â’r 
                anterliwt ychwaith, fel y gwnaeth John Hughes, Pontrobert, a’i 
                gyd-Fethodistiaid; ond ar yr un pryd (fel y nodwyd uchod) newidiwyd 
                naws ei waith, ac ymddengys ei fod yn ei ystyried ei hun yn cyflawni 
                swyddogaeth efengylu o fath ynddynt – cofier ei sylw enwog 
                wrth Thomas Charles (adeg un o’u cyfarfyddiadau lled fynych 
                yn siop Robert Llwyd yn Rhuthun): ‘Mr Charles, edrychwch 
                chwi ar ôl y defaid; mi edrychaf innau ar ôl y bleiddiaid’ 
                (gw. Gwaith Thomas Edwards (Twm o’r Nant), gol. 
                Isaac Foulkes, 1889, t.xxii, a D. E. Jenkins, The Life of 
                the Rev. Thomas Charles, cyf. 2, 1908, tt.387–8). Ac 
                mae’n siŵr i waith Twm a’i ddylanwad fod yn gyfrwng 
                i leddfu rhagfarnau gwrth-Fethodistaidd ymhlith y werin bobl.
              Achlysur y sylw uchod, mae’n debyg, oedd 
                anesmwythyd Thomas Charles ynghylch ymosodiad di-flewyn-ar-dafod 
                Twm yn 1802 ar feirniaid y Methodistiaid. Gwelir yr un math o 
                anesmwythyd yn union yn y sgwrs a gofnodir rhwng Twm a Robert 
                Roberts, Clynnog, ar ymweliad y pregethwr enwog hwnnw â 
                Dinbych tua 1798, ynghyd â’r un math o ateb yn union 
                gan Twm (gw. William Rees, Adgofion Hiraethog am y Parch. 
                Michael Roberts, Pwllheli, 1903, tt.81–4). Ond ar yr 
                un pryd, mae awydd mawr Robert Roberts i gael sgwrs â Twm, 
                a’r ‘gyfeillach siriol a difyrus iawn’ a fu 
                rhyngddynt y tro hwnnw, yn enghraifft dda o’r parch mawr 
                y delid ef ynddo gan yr arweinwyr Methodistaidd yng nghanol eu 
                hanesmwythyd. Dichon fod sylw lliwgar Daniel Owen yng ngenau Mari 
                Lewis, ymhen blynyddoedd wedyn, yn crynhoi agwedd y Methodistiaid 
                yn gyffredinol tuag at Twm o’r Nant: ‘Er nad oedd 
                Tomos y peth y dylase fo fod, yr oedd o yn ei hitio hi yn o lew’. 
                (Ar Twm o’r Nant a’r Methodistiaid, gweler traethawd 
                MA Dr Glyn M. Ashton a’i olygiad ef o Hunangofiant a 
                Llythyrau Twm o’r Nant. Mae’n werth darllen hefyd 
                yn y cyd-destun hwn stori fer awgrymog R. Williams Parry, ‘Hen 
                Eisteddfod’, yn Rhyddiaith R. Williams Parry, gol. 
                Bedwyr Lewis Jones.)
              Yn ei erthygl werthfawr ar ‘Yr Anterliwt 
                Gymraeg’ yn Llên Cymru yn 1953, dyfynna Mr 
                G. G. Evans sylw gan un o gybyddion yr anterliwtiau i’r 
                perwyl mai dau beth yn unig a allai dynnu tyrfa fawr yng Nghymru’r 
                ddeunawfed ganrif, sef y Methodistiaid a’r anterliwt. Dyma’r 
                ddau begwn a gydiai yn nychymyg y bobl. Ond mae’n werth 
                nodi hefyd sylw craff J. T. Jones ‘nad oedd yn bosibl i 
                ddau fudiad mor annhebyg [â’r anterliwt a Methodistiaeth] 
                gyd-flodeuo. Y mudiad Methodistaidd a orfu. Troes yr arch-interliwdiwr 
                ei hun “at grefydd,” a chollodd flas ar “chwarae 
                plant.” Aeth y Diwygiad â’r gwynt o hwyliau 
                yr Interliwd. Symudodd drama Cymru o’r llwyfan i’r 
                pulpud, ac yno’r arhosodd am ganrif gyfan’ (Yr 
                Eurgrawn, cyf. 131, 1939, t.373).
              Ann Griffiths
               Soniwyd eisoes am y diddordeb mewn barddoniaeth 
                a fodolai yn ardal Llanfihangel yn ystod ieuenctid John Hughes, 
                Pontrobert. Mae Morris Davies yntau yn sôn am y bri a oedd 
                ar farddoni yno: ‘Byddai hen drigolion Llanfihangel yn ymddifyru 
                llawer mewn gwneyd ac adrodd englynion, cywyddau, ac awdlau, a 
                chanu cerddi a charolau. Harri ap Harri, o Graig y Gath, oedd 
                eu hathraw prydyddol yn yr oes dan sylw; a mynych y byddai efe, 
                ei ddysgyblon, a’i gydnabyddiaeth, yn anerch eu gilydd ar 
                gynghanedd ddifyfyr’ (Cofiant Ann Griffiths, 1865, 
                t.18). Prin bod angen nodi hefyd mai’r ardal hon a’r 
                dyffrynnoedd cyfagos yw cadarnle’r carolau plygain; ac er 
                bod i bob llan ei dydd plygain ei hun, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa 
                y cynhelid ‘y Blygien Fawr’ ar yr ail Sul yn y flwyddyn 
                newydd, a phawb yn tyrru yno. Mae’n ddiddorol nodi hefyd 
                mai un o gyfoedion John Hughes o blwyf Llanfihangel, Thomas Williams 
                (‘Eos Gwnfa’; c. 1769–1848), yw un 
                o’r mwyaf adnabyddus a chynhyrchiol o blith awduron y carolau 
                hyn. 
              
Bu un arall o drigolion y plwyf, yr emynyddes 
                Ann Griffiths (1776–1805), hithau yn anadlu’r un awyr 
                ddiwylliannol â’i chyfaill, John Hughes. Perthynai 
                ei thad, Siôn Ifan Tomos, i gylch disgyblion barddol Harri 
                Parri. Yng nghasgliad Cwrt Mawr yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir 
                llawysgrif drwchus o farddoniaeth – ‘Llyfr Dolwar 
                Fach’ – a fu’n eiddo i Harri Parri, ond a aeth 
                i feddiant teulu Dolwar erbyn 1796. Cymysgedd o waith beirdd lleol 
                a gwaith beirdd mwy adnabyddus megis Huw Morys ac Edward Morris 
                o’r Perthillwydion sydd yn y gyfrol, ac yn eu plith englynion 
                gan Twm o’r Nant; ac y mae’r gyfrol yn ddrych da o’r 
                diwylliant y magwyd Ann Griffiths ynddo. 
              Mae o leiaf bedwar englyn o waith tad Ann wedi 
                goroesi i’n dydd ni, ynghyd ag un englyn y dywedir iddo 
                gael ei gyfansoddi gan Ann ei hun, a hithau yn ddim ond tua 10–12 
                oed ar y pryd (fe’u cyhoeddwyd gan Morris Davies yn Cofiant 
                Ann Griffiths, 1865, tt.17, 19). O’r dystiolaeth sydd 
                ar gael, felly, gellir dweud amdani hi fel am John Hughes, fod 
                ‘tuedd ynddi er yn fore at brydyddu’. Yn wir, y fagwraeth 
                hon mewn awyrgylch barddonol yw un rheswm a gynigir am y ffaith 
                i Ann ddewis mynegi ei phrofiadau ysbrydol ar gân yn ddiweddarach 
                yn ei bywyd.
              Perthynai Ann hefyd, fel John Hughes, i fyd yr 
                anterliwt a gweithgareddau cymdeithasol cyffelyb. ‘Dilyn 
                y ddawns’ a drwgdybio Ymneilltuwyr a Methodistiaid oedd 
                ei hosgo hi, fel gweddill ei theulu, a’i chymdogion yn gyffredinol. 
                ‘Dacw y pererinion yn myned i Mecca’, meddai’n 
                wawdus am y Methodistiaid ar eu ffordd i Sasiwn y Bala. Dyma sydd 
                gan Methodistiaeth Cymru (cyf. 2, 1854, t.411) i’w 
                ddweud wrth ddisgrifio cyflwr ysbrydol cylch y Sarnau ym mhlwyf 
                Llandrinio – ardal rhieni Ruth Evans (morwyn Dolwar Fach, 
                a gwraig John Hughes, Pontrobert) – yn nyddiau ieuenctid 
                Ruth: 
               
                Yr oedd nosweithiau chwareu, canu a dawsio, chwareu cardiau 
                  ac Interludiau yn eu llawn rym. Cedwid y rhai olaf 
                  a enwyd, nid yn unig gerllaw y tafarnau, ond yn fynych mewn 
                  tai amaethwyr yn y gymydogaeth. Arferid unwaith yn y flwyddyn, 
                  ar ryw ddiwrnod penodol, ymofyn am arth i’w faeddu, a 
                  mawr fyddai y difyrwch a fwynheid yn yr oferedd creulawn hwn. 
                  Yr oedd yr ŵylmabsant hefyd yn ei llawn rym, a’i llygredigaethau 
                  cethin yn parhau dros amryw ddyddiau.
              
              A digon tebyg oedd pethau ym mhlwyf cyfagos Llanfihangel-yng-Ngwynfa, 
                gyda merch fywiog Dolwar Fach yn chwarae rhan ddigon amlwg yn 
                y cwbl. 
              Ond daeth y tro tyngedfennol yn hanes Ann yn 1796, 
                y flwyddyn y cafodd John Hughes yntau dröedigaeth. Un o brif 
                ffeiriau’r flwyddyn yn Llanfyllin oedd y ffair a gynhelid 
                ar y dydd Mercher cyn y Pasg – er y byddai’r rhialtwch 
                a gysylltir â ffeiriau o’r fath yn ymestyn dros wyl 
                y Pasg ei hun hefyd. Ar ddydd Llun y Pasg 1796, a hithau bron 
                yn ugain oed, aeth Ann i ymuno yn y rhialtwch yn Llanfyllin. Aeth 
                yno ‘mewn bwriad i ddawnsio’, yn ôl John Hughes, 
                ac mae’n bosibl iawn fod gwylio anterliwt yn rhan o’r 
                difyrrwch arfaethedig hefyd, o gofio i Abraham Jones weld pobl 
                yn perfformio anterliwt o fewn llai na milltir i dref Llanfyllin 
                ar ddydd Llun y Pasg ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. 
              Roedd gweinidog yr Annibynwyr yn Llanfyllin wedi 
                sefydlu cyfres o ‘Gyfarfodydd y Pasg’ i geisio gwrthweithio 
                dylanwad y ffair. Ar y dydd Llun hwnnw, roeddynt wedi trefnu cyfarfod 
                awyr-agored y tu allan i Westy’r Goat (y ‘Cain Valley 
                Hotel’ yn ddiweddarach), gyda’r Parch. Benjamin Jones, 
                Pwllheli, yn bregethwr gwadd. Arhosodd Ann i wrando, a chafodd 
                ei bregeth y fath argraff arni nes peri iddi benderfynu ‘ymofyn 
                am grefydd, yn lle dilyn gwagedd’ (chwedl John Hughes). 
                Crynhoir tystiolaeth Ann mewn nodyn a ysgrifennodd ymhen dwy flynedd, 
                ym Mai 1798, o dan enw Benjamin Jones mewn cyfrol o’i waith 
                a oedd yn ei meddiant: ‘O fendigedig was ei Dduw dangosodd 
                imi lwubr bywud. Arweuniodd fi at fy Ngwaredwr anwul. Diolch buth’ 
                (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 
                cyf. 41, 1956, tt.25–6). O hynny allan, ymwrthod â 
                byd yr anterliwt fu hanes Ann, fel John Hughes yntau. Ymunodd 
                â’r ‘pererinion’, a thyfu’n ffigur 
                mor amlwg yn eu plith ag a fuasai cyn hynny yng nghylchoedd y 
                dafarn a’r ddawns.
              Nid yn unig y bu newid yn Ann, ond daeth y rhan 
                fwyaf o’i theulu agos, gan gynnwys ei thad, i gofleidio’r 
                un olygwedd ysbrydol. Yng nghyd-destun y teulu, mae’n werth 
                crybwyll efallai fod yr Abraham Jones y soniwyd amdano uchod yn 
                frawd-yng-nghyfraith i Ann Griffiths. Yn 1807, ddwy flynedd wedi 
                marw Ann, symudodd i fyw i Lanfyllin trwy briodi Jane, chwaer 
                Ann, gwraig weddw a gadwai siop yn y dref. Er nad oedd ymhlith 
                rhengoedd blaen pregethwyr y Methodistiaid, hwyrach fod disgrifiad 
                Mr G. G. Evans o Abraham Jones fel ‘pregethwr digon dinod’ 
                yn mynd ychydig yn rhy bell. Roedd yn ffigur digon amlwg ymhlith 
                Methodistiaid ei ddydd, yn enwedig yn sir Drefaldwyn, a bu’n 
                gydymaith i John Elias (gelyn arall i’r anterliwt, ond yn 
                un a soniai am athrylith Twm o’r Nant ‘gydag edmygedd’) 
                ar lawer taith bregethu ar hyd a lled y wlad. Brodor o Drefeglwys 
                ydoedd, ac mae’r ffaith fod John Hughes, Pontrobert, yn 
                dweud mai’r achlysur yn Llanfyllin oedd y tro cyntaf i Abraham 
                Jones weld anterliwt yn cael ei pherfformio, yn tanlinellu’r 
                ffaith nad oedd anterliwtio mor gyffredin yn y parthau hynny ag 
                ydoedd ym mharthau mwy gogleddol sir Drefaldwyn. 
              Cyfeiria Mr G. G. Evans yn ei erthygl yn Taliesin 
                at un Richard Newell, gŵr amlwg gyda’r Methodistiaid 
                a fu’n erlid anterliwtwyr yn frwd yn rhinwedd ei swydd fel 
                un o gwnstabliaid sir Drefaldwyn. Roedd ganddo yntau hefyd berthynas 
                deuluaidd ag Ann Griffiths, gan fod ei wraig Elizabeth (a briododd 
                yn 1811) a gŵr Ann yn frawd a chwaer. Ond yn 1960, mewn llythyr 
                at David Thomas, golygydd Lleufer, oddi wrth y gweinidog 
                a’r cerddor, O. T. Davies (‘Owain Ddu’; 1876–1969), 
                Y Rhyl, y ceir yr awgrym mwyaf diddorol ynghylch perthynas teulu 
                Ann â’r anterliwt. Yn ei lythyr, dywed Mr Davies (a 
                fu’n weinidog yng nghapel y Methodistiaid yn Llanfyllin 
                rhwng 1912 ac 1948 – gw. yr ysgrif goffa iddo yn Blwyddiadur 
                y Methodistiaid Calfinaidd am 1970, t.276) – iddo gael llawer 
                o hanes teulu Ann oddi wrth ei fam-yng-nghyfraith, Mrs Elizabeth 
                Vaughan. Priododd hi a’i gŵr, Abel, yn Lerpwl, a buont 
                yn byw yn Llundain wedi hynny; ond dau o Ddyffryn Clwyd oeddynt 
                yn wreiddiol. Yn ôl Mrs Vaughan, roedd ei thad – Thomas 
                Edwards, Bryn-glas, Nantglyn – yn gefnder i Twm o’r 
                Nant. Ond honnai Mrs Vaughan ei bod hi’n perthyn, nid yn 
                unig i Twm, ond hefyd i Ann Griffiths. Awgryma O. T. Davies, yng 
                ngoleuni hynny, mai’r rheswm yr aeth Twm o’r Nant 
                i ardal Llanfihangel am gyfnod (a chael lle i’w geffylau 
                ym Melin Pontrobert, yn ôl a glywodd Mr Davies) oedd oherwydd 
                ei gysylltiadau teuluaidd yn y cylch. (Awgrymir hefyd yn y llythyr 
                fod Ann ei hun wedi symud i fyw o Ddyffryn Clwyd i Ddolwar Fach, 
                ond mae’n amlwg fod hynny’n anghywir, gan iddi gael 
                ei geni yn Nolwar, a gwreiddiau ochr ei thad o’r teulu, 
                o leiaf, yn bur ddwfn yn naear plwyf Llanfihangel.) Hyd yma, nid 
                wyf wedi llwyddo i ddod o hyd i unrhyw beth pellach i gadarnhau 
                fod perthynas rhwng Twm ac Ann; a phetai rhywun yn gallu taflu 
                unrhyw oleuni ar y mater, byddwn yn hynod falch o glywed ganddynt. 
              
              Llwyddodd David Thomas yn ei waith ymchwil manwl 
                i deulu Ann Griffiths (y cyhoeddwyd ei ffrwyth yn y gyfrol Ann 
                Griffiths a’i Theulu yn 1963), i ddangos fod teulu 
                Ann yn ymgysylltu, ymhlith eraill, â theuluoedd Samuel Roberts 
                (Llanbryn-mair), Thomas Charles ac O. M. Edwards. Byddai’n 
                braf cael ychwanegu teulu Twm o’r Nant at eu nifer!
              [Ceir trafodaeth fanylach ar rai o’r materion 
                uchod yn E. Wyn James, ‘Ann Griffiths: Y Cefndir Barddol’, 
                Llên Cymru, 23 (2000), tt. 147-70. ISSN 0076-0188.]