Gwefan yw hon ar gyfer astudio bywyd a gwaith Ann Griffiths (1776-1805), 
                un o feirdd ac emynwyr pwysicaf Cymru, a bardd Cristnogol o faintioli 
                rhyngwladol. 
              Mae tair prif adran i’r wefan:
              1. Astudio Ann Griffiths 
                Deunydd gan Dr E. Wyn James am fywyd, gwaith a chefndir Ann Griffiths, 
                gan gynnwys cyflwyniad cyffredinol i’w bywyd a’i gwaith.
              2. Testunau digidol
                Fersiynau digidol o lawysgrifau, llyfrau ac erthyglau yn ymwneud 
                ag Ann Griffiths, yn cynnwys y testunau cynharaf o’i hemynau 
                a’i llythyrau, deunydd bywgraffyddol crai, a rhychwant o 
                drafodaethau beirniadol.
              3. Gwaith Ann Griffiths (gol. E. Wyn James)
                Testun emynau a llythyrau Ann Griffiths.
              Mae cynnwys y wefan hon dan hawlfraint. Ewch i’r tudalen 
                Materion hawlfraint am fanylion 
                ynghylch perchnogion hawlfraint ac amodau atgynhyrchu deunydd. 
              
              I weld manylion technegol ynghylch y wefan a’r prosiect 
                digido, ewch i’r tudalen Gwybodaeth 
                am y Prosiect Digidol.
              Bwriadwn ddatblygu’r wefan hon ymhellach trwy osod deunydd 
                ychwanegol arni o bryd i’w gilydd. Croesawn eich ymholiadau 
                a’ch awgrymiadau ynghylch y wefan a’i chynnwys: Cysylltu 
                â ni.