jump to main content

Cardiff University
 
Cynnwys
Astudio Ann Griffiths
Testunau digidol
Gwaith Ann Griffiths
Hawlfraint
Gwybodaeth
Cysylltu
 
English (Home)
 
 
Catalog y Llyfrgell
Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Nodir isod rai dyddiadau a digwyddiadau pwysig yn hanes bywyd Ann Griffiths. Yn ogystal, nodir dyddiadau pwysig yn hanes aelodau ei theulu agos yn ystod bywyd Ann, ynghyd â rhai dyddiadau perthnasol yn hanes aelodau’r teulu cyn ei geni. At y rhain, er mwyn gosod bywyd yr emynyddes yn ei gyd-destun ehangach, ychwanegwyd rhai dyddiadau eraill arwyddocaol (e.e., dyddiadau pwysig yn hanes aelodau ei chylch cyfeillion, digwyddiadau yn hanes Methodistiaeth yn ei hardal, etc.), yn ogystal â dyddiadau cyhoeddi ambell lyfr a fu’n ddylanwadol yn natblygiad ysbrydol Ann a’i chydnabod agos.

E. Wyn James

1735

16 Rhagfyr 1735

Evan Thomas ac Elizabeth Morgan (rhieni tad Ann) yn priodi yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

 

1736

3l Hydref 1736

Bedyddio John, mab Evan ac Elizabeth Thomas yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Ef oedd tad Ann. Fel John Evan Thomas yr adwaenid ef yn gyffredin yn yr ardal, neu Siôn Ifan Thomas ar lafar.

 

1737

12 Ebrill 1737

Edward Theodore o blwyf Hirnant a Jane Morgan o blwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant (rhieni mam Ann) yn priodi.

 

1744

1 Ionawr 1744

Bedyddio Jane, merch Edward a Jane Theodore, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Hi oedd mam Ann.

 

1759

1759

Cyhoeddi llyfr Timothy Thomas, Traethiad am y Wisg-Wen Ddisglair. Honna rhai mai’r llyfr hwn, ac nid Tragywyddol Orphwysfa’r Saint (1790), a fu’n gyfrwng deffro John Thomas, brawd Ann, yn ysbrydol. Gwyddys fod copi o’r llyfr hwn yn Nolwar Fach, ac un arall ym meddiant John Hughes, Pontrobert.

 

1764

Pasg 1764

John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Oruchwylwyr y Tlodion dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal y swydd am ddwy flynedd, hyd Basg 1766.

 

1767

10 Chwefror 1767

John Evan Thomas (30 oed) a Jane Theodore (23 oed) yn priodi yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, ac yn mynd i fyw at rieni John i fferm Tŷ Mawr, tua milltir o Ddolwar Fach.

13 Rhagfyr 1767

Bedyddio Jane, chwaer hynaf Ann, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

 

1769

20 Awst 1769 (?)

Bedyddio John, brawd hynaf Ann, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

c. 1769

Geni Thomas Williams (‘Eos Gwnfa’), gwehydd o Bontyscadarn, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, a bardd toreithiog. Bu ei garolau plygain yn boblogaidd iawn. Bu farw yn 1848, a’i gladdu ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

 

1770

Mawrth 1770

Evan Thomas yn cymryd tenantiaeth Dolwar Fach.

 

1772

Mawrth 1772

Tenantiaeth Dolwar Fach yn cael ei throsglwyddo oddi wrth Evan Thomas i’w fab, John Evan Thomas.

Pasg 1772

John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Oruchwylwyr y Tlodion dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal y swydd hyd Basg 1773.

10 Mai 1772

Bedyddio Elizabeth, ail chwaer Ann, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

11 Gorffennaf 1772

Geni John Davies, mewn bwythyn ar fferm Dugwm Isaf ym mhlwyf Meifod, yn ôl pob tebyg. Roedd yn gyfaill agos i John Thomas, brawd Ann, a daeth yn athro yn ysgolion cylchynol Thomas Charles. Yn 1800 gadawodd i fod yn genhadwr yn Tahiti, lle y bu farw yn 1855. Am gyfran helaeth o’i fywyd, bu’n gohebu’n gyson â John Hughes, Pontrobert. Y tebyg yw mai ef yw’r John mab David a Martha Davies a fedyddiwyd yn Eglwys Meifod ar 12 Gorffennaf 1772.

c. 1772

Seiat Fethodistaidd yn ymffurfio yn ardal Pontrobert, gan ymgartrefu ym Mhen-llys.

 

1773

24 Chwefror 1773

Claddu Evan Thomas, Dolwar Fach (tad-cu Ann) ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

Pasg 1773

Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Oruchwyliwr y Tlodion dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

 

1775

22 Chwefror 1775

Geni John, mab David Hugh a Jane Ellis, ei ail wraig. Fe’i bedyddiwyd yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa ar 26 Chwefror 1775. Dyma ‘John Hughes, Pontrobert’, a briododd Ruth Evans, morwyn Dolwar Fach, ac a ddaeth yn weinidog amlwg gyda’r Methodistiaid Calfinaidd.

 

1776

21 EBRILL 1776

BEDYDDIO ANN YN EGLWYS LLANFIHANGEL-YNG-NGWYNFA

16 Medi 1776

Geni Thomas, mab Edward a Margaret Griffiths. Fe’i bedyddiwyd yn Eglwys Meifod ar 20 Medi 1776. Dyma’r Thomas Griffiths a briododd Ann yn Hydref 1804.

 

1779

c. 1779

Geni Ruth Evans, merch Morris a Margaret Evans, Melin y Mardy, plwyf Llandrinio. Yn 1801 aeth yn forwyn i Ddolwar Fach. Hi a’i gŵr, John Hughes, Pontrobert, a fu’n gyfrifol yn fwy na neb am ddiogelu emynau Ann.

1779

Twm o’r Nant (Thomas Edwards; 1739-1810), yr anterliwtiwr enwog, yn dod i fyw am gyfnod byr i Ddolobran, gerllaw Pontrobert.

20 Tachwedd 1779

Bedyddio Edward, ail frawd Ann, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

 

1782

9 Ebrill 1782

Claddu Elizabeth, merch Evan ac Elizabeth Thomas, Dolwar Fach (a modryb Ann), ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

 

1784

2 Gorffennaf 1784

Thomas Charles (1755-1814) yn ymuno â seiat y Methodistiaid yn y Bala.

 

1785

1785

Thomas Charles yn cynnal ei ysgolion cylchynol cyntaf.

 

1786

c. 1786

Ann yn cyfansoddi englyn byrfyfyr.

 

1789

1789

Y Chwyldro Ffrengig. Dilynwyd y Chwyldro yn 1793 gan ryfel rhwng Prydain a Ffrainc. Ac eithrio cadoediad byr yn 1802-03, bu’r ddwy wlad yn rhyfela’n ddi-dor o 1793 hyd 1815, ddeng mlynedd ar ôl marw Ann. Yn ôl John Hughes, Pontrobert, byddai Ann yn ddiwyd mewn gweddi yn achos y rhyfel hwn.

29-30 Medi 1789

Eisteddfod y Bala, sef yr eisteddfod gyntaf i gael ei chefnogi’n swyddogol gan y Gwyneddigion. Ymhlith y beirdd a ddaeth ynghyd yr oedd y radical, William Jones (1726-95), Llangadfan, a Harri Parri, Craig-y-gath, athro barddol tad Ann. Gwallter Mechain (Walter Davies; 1761-1849) oedd y bardd buddugol. Bu John Hughes, Pontrobert yn cystadlu yn Eisteddfodau’r Gwyneddigion yn 1794 (Dolgellau) a 1795 (Penmorfa).

 

1790

c. Ion.-Chwef. 1790

Thomas Evans yn dod yn gurad i blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

1790

Cyhoeddi Tragywyddol Orphwysfa’r Saint, cyfieithiad Thomas Jones, Creaton o gyfrol Richard Baxter, The Saints Everlasting Rest, a’r holl elw tuag at Ysgolion Rhad Cymreig Mr Charles o’r Bala. Dywedir mai dyma’r llyfr a fu’n gyfrwng deffro John Thomas, brawd Ann, yn ysbrydol

 

1791

1791

Cyhoeddi Marw i’r Ddeddf a Byw i Dduw, cyfieithiad o lyfr Ralph Erskine, Law-Death, Gospel Life. Gwyddys fod gan John Hughes, Pontrobert gopi o’r llyfr dylanwadol hwn.

24 Awst 1791

Priodas Thomas Evans, curad Llanfihangel-yng-Ngwynfa, a Margaret Jones, Efail Llwydiarth, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Tafarn a gefail ar y ffordd rhwng Llanfyllin a Llangadfan oedd Efail Llwydiarth. Roedd yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer nosweithiau llawen a dawnsfeydd, a byddai Ann yn ei mynychu’n gyson cyn ei thröedigaeth.

 

1792

c. 1792 (?)

Argyhoeddi John, brawd Ann, wrth iddo ddarllen Tragywyddol Orphwysfa’r Saint (1790), copi a gafodd yn fenthyg gan ei gyfaill, Samuel Owen. Cyn bo hir wedi hynny, aeth at y Methodistiaid i Ben-llys, y cyntaf o deulu Dolwar i ymuno â nhw.

1792

Cyhoeddi Gwledd i’r Eglwys, cyfieithiad Thomas Jones, Creaton o lyfr William Romaine ar Ganiad Solomon, Discourses upon Solomon’s Song. Roedd copi o’r llyfr hwn ym meddiant Thomas Griffiths, gwr Ann.

 

1793

1793

Cyhoeddi llyfr Benjamin Jones, Pwllheli, Athrawiaeth y Drindod.

17 Chwefror 1793

Elizabeth, chwaer Ann, yn priodi Thomas Morris o blwyf Llangadfan yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, gan symud i fyw i fferm Parc Llysyn ar derfynau plwyf Llangadfan, tua phum milltir o Ddolwar Fach.

24 Mawrth 1793

Bedyddio John, mab Jane, chwaer hynaf Ann, a’i gŵr, Thomas Jones, siopwr o Lanfyllin? Yn ôl Cyfrifiad 1851 a chofnod ei farwolaeth yn 1855, gellir casglu i John Jones gael ei eni rhwng Mai 1792 a Mawrth 1793, sef chwe blynedd cyn priodas ei rieni. Mae lle i gredu iddo gael ei eni yn ardal Rhosybrithdir, ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Methwyd darganfod cofnod ei fedyddio. Tybed ai ef yw’r Thomas, mab anghyfreithlon Jane Thomas, Llanfyllin, a fedyddiwyd yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa ar 24 Mawrth 1793?

13 Mai 1793

Ann yn un o dystion swyddogol priodas David Thomas o blwyf Llanfair a Jane Hughes o blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

 

1794

31 Ionawr 1794

Claddu Jane Thomas, mam Ann, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, yn 50 oed. Roedd Ann yn 17 oed ar y pryd.

1 Mawrth 1794

Geni Ann, merch ‘Thomas Maurice Park’ a’i wraig, Elizabeth (sef chwaer Ann, yn ôl pob tebyg), a’i bedyddio yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol.

21 Mehefin 1794

Ceir y cofnod a ganlyn yng Nghofrestr Plwyf Llangadfan: ‘John the illegitimate son (as supposed) of Thomas Morris Park and Anne Evans his Concubine was born 21st. and baptised 22nd. of June 1794.’ Daethpwyd ag achos yn erbyn y ddau yn y llys eglwysig yng Ngorffennaf 1795 ar gyhuddiad o odineb. Yn ôl pob tebyg, gŵr Elizabeth chwaer Ann oedd hwn, ac mae’n ddigon posibl mai ef yw’r ‘Thomas Morris alias Jones junior’ o blwyf Llangadfan y bedyddiwyd Anne, ei ferch anghyfreithlon ef ac Elizabeth Lewis o blwyf Garthbeibio, yn Eglwys Garthbeibio ar 28 Chwefror 1787. Claddwyd y plentyn ym mynwent yr eglwys honno ar 28 Medi 1787, ddiwrnod ar ôl i gyhuddiad o anniweirdeb gael ei ddwyn yn erbyn Thomas Morris ac Elizabeth Lewis yn y llys eglwysig. Mae David Thomas yn ei gyfrol, Ann Griffiths a’i Theulu (1963), t.40, yn awgrymu bod rhyw ddieithrwch rhwng Elizabeth Morris a’i thad, John Evan Thomas, Dolwar Fach. Tybed ai ‘helyntion’ Thomas Morris a fu’n gyfrifol am hynny?

 

1795

1795

Ymosod ar y Methodist, Edward Watkin, Llanidloes wrth iddo bregethu yn yr awyr agored yn Llanfyllin.

Pasg 1795

John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Wardeniaid Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal y swydd am ddwy flynedd, hyd Basg 1797. Bu’n gweithredu hefyd yn un o Oruchwylwyr y Tlodion dros y plwyf o Basg 1795 hyd Basg 1796.

21 Mai 1795

Geni David Jones, ail blentyn a mab hynaf Elizabeth (chwaer Ann) a’i gŵr, Thomas Morris. Fe’i bedyddiwyd yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol.

c. 1795

Geni David Jones, ail blentyn a mab hynaf Elizabeth (chwaer Ann) a’i gŵr, Thomas Morris. Fe’i bedyddiwyd yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol.

 

1796

1796

Ann yn torri ei henw a’i chyfeiriad ar dudalen mewn casgliad llawysgrif o farddoniaeth a fu’n eiddo i Harri Parri, Craig-y-gath, athro barddol tad Ann, ond a ddaeth o bosibl yn eiddo i Edward, brawd Ann, yn 1796. Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC, Cwrt Mawr 1491B).

Gwanwyn 1796

Diwygiad grymus yn torri allan ym Mhontrobert. Yn ganlyniad, symudodd yr achos Methodistaidd o Ben-llys i Bontrobert yn raddol yn y blynyddoedd 1796-97. Erbyn i’r achos symud i Bontrobert yr oedd John, brawd Ann, wedi ei ddewis yn flaenor.

Llun y Pasg (?) 1796 (sef 28 Mawrth)

Argyhoeddi Ann (a hithau bron yn 20 oed) wrth wrando ar y gweinidog Annibynnol, Benjamin Jones (1756-1823), Pwllheli yn pregethu yn Llanfyllin. Roedd haf 1796 yn adeg wlyb a stormus, a llawer o fellt a llifogydd yn ôl pob sôn. Ymddengys iddi fod yn adeg ddigon stormus yn hanes ysbrydol Ann yn ogystal.

Pasg 1796

Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Oruchwyliwr y Tlodion dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

Haf 1796

John Hughes, Pontrobert yn cael tröedigaeth ac yn ymuno â’r seiat Fethodistaidd ym Mhen-llys.

1796 (?)

Tröedigaeth Edward, brawd Ann, at y Methodistiaid.

Nadolig 1796

Ann yn mynd ar ei phen ei hun i wasanaeth y plygain yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa fore’r Nadolig, a’i dau frawd yn mynd i wasanaeth y Methodistiaid. Parodd sylwadau’r curad wedi’r gwasanaeth iddi gefnu ar yr Eglwys a chwilio am gymorth ysbrydol yn rhywle arall.

 

1797

1797

Ann yn ymuno â’r seiat Fethodistaidd ym Mhontrobert.

Pasg 1797

Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Warden Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

5 Rhagfyr 1797

Geni Gwen Jones, trydydd plentyn Elizabeth a Thomas Morris, a’i bedyddio yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol.

 

1798

c. 1798 (?)

Pregethwyr Methodistaidd yn dechrau cynnal oedfaon yn Nolwar Fach.

c. 1798 (?)

Tad Ann yn ymuno â’r Methodistiaid.

3 Mai 1798

Ann yn ysgrifennu nodyn ar gopi o lyfr Benjamin Jones, Pwllheli, Athrawiaeth y Drindod (1793).

27 Awst 1798

Jane, chwaer Ann, a Thomas Jones, siopwr o Lanfyllin, yn priodi yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

17 Tachwedd 1798

Edward, brawd Ann, yn priodi Elizabeth Savage yn Eglwys Llangynyw, ac Ann yn un o’r tystion swyddogol. Daeth Elizabeth i fyw at ei gŵr i Ddolwar Fach.

 

1799

1799

John Hughes, Pontrobert yn lletya yn Nolwar Fach am rai misoedd tra oedd yn cadw un o ysgolion cylchynol Thomas Charles yn yr ardal.

Pasg 1799

John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Wardeniaid Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal y swydd am ddwy flynedd, hyd Basg 1801. Y warden arall yn y cyfnod hwn oedd William Jones, Llaethbwlch. (Ai’r un William Jones, Llaethbwlch, oedd hwn â hwnnw a fu’n gynghorwr gyda’r Methodistiaid ym Mhontrobert? Y tebyg yw ei fod yn frawd i Thomas Jones, y siopwr o Lanfyllin a brawd-yng-nghyfraith Ann.)

16 Ebrill 1799

Cyhoeddi’r rhifyn cyntaf o gylchgrawn Thomas Charles o’r Bala a Thomas Jones, Dinbych, Trysorfa Ysprydol. Cafwyd pum rhifyn arall yn y gyfrol gyntaf, ym Mehefin 1799, Hydref 1799, Ionawr 1800, Hydref 1800 a Rhagfyr 1801. Yna bu bwlch hyd Mawrth 1809 cyn cyhoeddi rhifyn cyntaf yr ail gyfrol. Roedd copi o gyfrol gyntaf y cylchgrawn ym meddiant John Hughes, Pontrobert, ac yn sicr ddigon, byddai teulu Dolwar yn disgwyl yn awchus am bob rhifyn.

22 Gorffennaf 1799

Derbyn John Davies yn ddarpar-genhadwr gan Gymdeithas Genhadol Llundain.

27 Hydref 1799

Bedyddio John, mab Edward ac Elizabeth Thomas, Dolwar Fach, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

 

1800

1800

Codi Capel Uchaf, Pontrobert, ar gyfer seiat y Methodistiaid yno.

Gwanwyn (?) 1800

John Hughes, Pontrobert yn mynd yn athro i Ddyffryn Ddyfi. Ymddengys iddo fod yn athro ysgolion cylchynol yng ngorllewin Maldwyn, yn yr ardal rhwng Cemais a Llanidloes, am y 4-5 mlynedd nesaf.

3 Mawrth 1800

Geni Jane, pedwerydd plentyn Elizabeth a Thomas Morris, a’i bedyddio yn Eglwys Llangadfan ymhen deuddydd.

8 Mai 1800

John Davies yn anfon llythyr at seiat Pontrobert o Portsmouth, ychydig ddyddiau cyn dechrau ar ei fordaith i Dahiti. Cedwir copi John Hughes, Pontrobert ohono yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC, Archifau’r M.C., 5864).

15 Tachwedd 1800

Claddu Harri Parri o Graig-y-gath, athro barddol tad Ann, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

28 Tachwedd 1800

Llythyr cyntaf Ann at John Hughes (Llythyr I). Mae copïau ar gael o chwe llythyr arall a ysgrifennodd Ann at John Hughes, Pontrobert. Er mai dim ond dau o’r chwech sydd wedi’u dyddio, rhaid eu bod oll wedi eu hysgrifennu cyn ei phriodas yn Hydref 1804, gan mai ‘Ann Thomas’ yw’r enw a roddwyd wrthynt. Mae lle i gredu eu bod oll yn gynnyrch y cyfnod rhwng diwedd Tachwedd 1800 a haf 1802.

 

1801

c. 1801

Derbyn Thomas Griffiths (gŵr Ann maes o law) yn aelod o’r seiat Fethodistaidd a gynhelid yn ei gartref yn y Cefn-du, plwyf Cegidfa ac yntau’n 24 oed. Cafodd ei ethol yn flaenor yn fuan iawn wedi hynny.

17 Chwefror 1801

Llythyr gan Ann at John Hughes (Llythyr II).

Mawrth 1801

Edward, brawd Ann, yn cymryd tenantiaeth ffarm fechan Gwern Fawr ym mhlwyf Llangynyw yn agos i Bontrobert.

Pasg 1801

Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Warden Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

Mai 1801

Ruth Evans yn dod yn forwyn i Ddolwar Fach (i gymryd lle gwraig Edward, mae’n debyg).

12 Mai 1801

Ann yn un o dystion swyddogol priodas Thomas Morris a Margaret Humphreys, y ddau o blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

 

1802

30 Mawrth 1802

Geni Thomas, pumed plentyn Elizabeth a Thomas Morris, a’i fedyddio yn Eglwys Llangadfan y diwrnod canlynol.

Gwanwyn 1802

Pedwar gŵr ifanc yn dechrau pregethu gyda’r Methodistiaid Calfinaidd yn sir Drefaldwyn. Daeth y pedwar ohonynt yn ffigurau amlwg ym Methodistiaeth y sir:

 

(i) John Hughes, Pontrobert (1775-1854)
Cafodd fagwraeth eithriadol o dlawd ym Mraich-y-waun, ardal i’r gogledd o Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Daeth yn un o arweinwyr amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd yng ngogledd Cymru. Priododd Ruth Evans, morwyn Dolwar Fach, yn 1805. Buont yn byw am y rhan fwyaf o’u bywyd priodasol hir yn y tŷ bychan sydd ynghlwm wrth Gapel Uchaf Pontrobert. Mae John Hughes yn ffigur allweddol yn hanes diogelu emynau a llythyrau Ann, a’i ysgrif fywgraffyddol arni, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1846, yw’r ffynhonnell bwysicaf am ei bywyd.

 

(ii) Evan Griffiths (1778-1839)
Brawd Thomas Griffiths, gŵr Ann. Ganed ef yn y Rhos-fawr, plwyf Meifod, 12 Mawrth 1778. Symudodd y teulu i’r Cefn-du, plwyf Cegidfa, pan oedd yn wyth oed, ond symudasant yn ôl i blwyf Meifod, i’r Ceunant, yn 1804, ac yno y treuliodd weddill ei oes.

 

(iii) William Jones (1770-1837)
Fe’i ganed yn Nhrawsfynydd yn sir Feirionnydd a chafodd dröedigaeth yn Llundain dan weinidogaeth William Romaine. Symudodd i blwyf Llanwrin yn Nyffryn Dyfi yn 1794 pan briododd Susan Watkins, Mathafarn. Yn 1805 symudodd i Ddolyfonddu yn yr un plwyf, ac yno y bu weddill ei fywyd.

 

(iv) Abraham Jones (1775-1840)
Ganed a magwyd ef ym mhlwyf Trefeglwys, gerllaw Llanidloes. Symudodd i sir Faesyfed yn 1805, ond symudodd oddi yno i Lanfyllin pan briododd, ar 8 Chwefror 1807, Jane Jones, gwraig weddw a gadwai siop yn y dref honno. Jane chwaer hynaf Ann.

18 Ebrill 1802
(bore Sul y Pasg)

John Hughes, Pontrobert yn pregethu am y tro cyntaf, a hynny yn Llanidloes ar y Sul wedi Cwrdd Misol y Methodistiaid Calfinaidd yno. Mewn llythyr ato yr adeg honno (Llythyr VI), cyfeiria Ann yn llawen at y ffaith ei fod wedi cael caniatâd i ddechrau pregethu.

Pasg 1802

John Evan Thomas yn cael ei ethol yn un o Oruchwylwyr y Tlodion dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa ac yn dal y swydd hyd Basg 1803.

Mehefin 1802

Er mai 1805 yw’r dyddiad ar wynebddalen cyfrol gyntaf Geiriadur Ysgrythurol dylanwadol Thomas Charles o’r Bala, yr oedd wedi dechrau ymddangos yn rhannau o tua Mehefin 1802 ymlaen. Ymddangosodd y pum rhan hyd at y gair ‘Dannedd’ rhwng haf 1802 a gwanwyn 1805, a’r gweddill ar ôl marw Ann. Anodd credu na fyddai’r pum rhan gyntaf hyn wedi’u byseddu’n aml ganddi; ond mae’r Geiriadur ar ei hyd yn ddrych o un o’r dylanwadau meddyliol ac eneidiol pennaf a fu ar Ann, ac yn gyfrol bwysig o ran deall ei meddwl a’i gwaith.

c. 1802 (?)

Ann yn dechrau cyfansoddi emynau.

c. 1802 (?)

Ann yn anfon llythyr at Elizabeth Evans, Bwlch Aeddan (Llythyr VIII). Fferm ym mhlwyf Cegidfa yw Bwlch Aeddan, a byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal yno gan y Methodistiaid yn y cyfnod hwnnw. Mae’n debyg mai morwyn ar y fferm oedd Elizabeth Evans. Credir yn gyffredinol ei bod yn chwaer i Ruth Evans, morwyn Dolwar Fach. Dyma’r unig lythyr sydd wedi goroesi yn llaw Ann ei hun. Fe’i cedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC 694D). Tua dechrau’r ugeinfed ganrif, sylwodd Elfed (H. Elvet Lewis; 1860-1953) ar ddyfrnod yn y papur yr ysgrifennwyd y llythyr arno. Roedd y dyddiad 1801 arno. Braidd y byddai’r llythyr wedi’i ysgrifennu cyn 1802, felly. Gan mai ‘Ann Thomas’ a arwyddodd y llythyr, rhaid ei bod wedi’i ysgrifennu cyn ei phriodas yn Hydref 1804.

14 Rhagfyr 1802

John Parry a Griffith Siôn yn pregethu yn Nolwar Fach gyda’r hwyr, ac yn cael oedfa hynod iawn yno. Testun pregeth John Parry oedd Caniad Solomon 5:10, ‘Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil’ (cf. Emynau XII a XIII). Athro yng Nghaergybi oedd John Parry (1775-1846) ar y pryd. Symudodd i ddinas Caer yn 1806, a dod yn bregethwr a chyhoeddwr dylanwadol gyda’r Methodistiaid. Gwehydd o sir Gaernarfon, ac un o bregethwyr cynharaf y Methodistiaid yn y sir honno, oedd Griffith Siôn. Bu’r pregethwr Methodist enwog, John Elias (1774-1841), yn gweithio iddo fel gwehydd pan oedd yn ifanc. Symudodd Griffith Siôn i ardal y Sarnau ger y Bala tua 1802.

 

1803

4 Mawrth 1803

John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans. Cedwir ei gopi ef o’r llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC, Archifau’r M. C. 5863).

Pasg 1803

Diwedd cyfnod John Evan Thomas yn Oruchwyliwr y Tlodion dros blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

27 Mai 1803

John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans. Cedwir ei gopi ef o’r llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC, Archifau’r M. C. 5863).

28 Mai 1803

Cais at Lys Esgob Llanelwy i gofrestru Dolwar Fach yn lle ar gyfer addoliad cyhoeddus, wedi’i arwyddo gan saith o wŷr ‘dissenting from the Church of England’, sef John Evan Thomas a’i ddau fab, John ac Edward, William Jones, John Griffiths, Thomas Morgan a John Thomley. Cofrestrwyd yr adeilad ar 9 Mehefin 1803.

9 Gorffennaf 1803

John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans o’r Berth-las, Trefeglwys. Cedwir y llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC, Archifau’r
M. C. 5869).

1803 (?)

Ychydig cyn ei farw, John Evan Thomas yn gwneud copi o nifer o emynau Ann ar ddalennau gwynion a gydrwymwyd i’r diben hwnnw â chopi Jane, ei ferch yn Llanfyllin, o ‘lyfr hymnau’ J. R. Jones, Ramoth. Gall hwn fod yn gyfeiriad at lyfr a gyhoeddodd J. R. Jones yn 1801 neu, yn debycach, at ei Casgliad o Salmau a Hymnau (Caerlleon: W. C. Jones, 1802). Mae rhai copïau o’r gyfrol hon wedi’u dyddio 1803, a all olygu fod rhai copïau wedi ymddangos o’r wasg yn niwedd 1802 ac eraill ar ddechrau 1803.

 

1804

23 Chwefror 1804

Claddu John Evan Thomas ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn 67 oed. Cafodd ei farwolaeth sydyn effaith ddwys ar Ann, nes peri’r gwanychu ar ei hiechyd a barhaodd weddill ei hoes.

Yn gynnar yn 1804

Thomas Griffiths a’i deulu yn symud i’r Ceunant, Meifod. Cyn hir, dechreuwyd cynnal cyfarfodydd pregethu yno gan y Methodistiaid, a chofrestrwyd y tŷ ar gyfer addoliad cyhoeddus ar 12 Gorffennaf 1804.

1804

Cyhoeddi Talfyriad o Hanes Mr. Kicherer (Y Bala: Jones & Co.), sy’n rhoi peth o hanes cenhadaeth J. J. Kicherer ar ran Cymdeithas Genhadol Llundain yn neheudir Affrica, gan gynnwys ei waith ymhlith yr Hotentotiaid a’r Coraniaid. Thomas Charles oedd awdur y llyfr yn ôl pob tebyg, ac aeth i ail argraffiad yn yr un flwyddyn. Ar ddiwedd y llyfr ceir hanes sefydlu y ‘Feibl Gymdeithas’ yn Llundain ar 7 Mawrth 1804; ceir cyfeiriad hefyd at John Davies a oedd erbyn hynny ‘yn llenwi ei le yn hardd ac yn ddefnyddiol’ fel cenhadwr yn Tahiti. Yn ôl pob tebyg, tuag adeg cyhoeddi’r llyfr hwn y cyfansoddod Ann ei ‘hemyn cenhadol’, ‘Cenhadon hedd, mewn efengylaidd iaith’ (Emyn XXIV). Roedd copi o’r llyfr yn llyfrgell John Hughes, Pontrobert.

10 Gorffennaf 1804

Bedyddio Edward, ail blentyn Edward ac Elizabeth Thomas, yn Eglwys Llangynyw.

1 Hydref 1804

Geni Ann, chweched plentyn Elizabeth a Thomas Morris, a’i bedyddio ar 6 Hydref yn Eglwys Llangadfan.

Hydref 1804 (?)

John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ann Thomas. Nid oes dyddiad wrtho. Fe’i hysgrifennwyd, yn ôl pob tebyg, rhwng sasiwn gan y Methodistiaid Calfinaidd a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ddiwedd Medi 1804 a phriodas Ann ar 10 Hydref 1804. Cedwir y llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC 3292E).

Hydref 1804

John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans o Lanidloes. Dyddiwyd y llythyr ‘Hydref 1804’. Rhaid ei fod wedi’i ysgrifennu cyn i Ann briodi ar 10 Hydref am ei fod yn cyfeirio ati fel Ann Thomas. Cedwir y llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC, Archifau’r M. C. 5870).

10 Hydref 1804

Priodas Ann (28 oed) a Thomas Griffiths (a oedd bum mis yn iau na hi) yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

7 Tachwedd 1804

Claddu Thomas Jones, ‘Siop Cornel’, Llanfyllin, brawd-yng-nghyfraith Ann, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

13 Tachwedd 1804

John Hughes yn ysgrifennu llythyr at Ruth Evans o Lanidloes. Cedwir y llythyr yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC 3292E).

 

1805

7 Mai 1805

John Hughes a Ruth Evans yn priodi yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, a Thomas ac Ann Griffiths yn dystion swyddogol.

13 Gorffennaf 1805

Geni Elizabeth, merch Thomas ac Ann Griffiths, a’i bedyddio’r un diwrnod gan Jenkin Lewis (1749-1805), gweinidog yr Annibynwyr yn Llanfyllin.

31 Gorffennaf 1805

Claddu Elizabeth, merch Thomas ac Ann Griffiths, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

12 AWST 1805

CLADDU ANN YM MYNWENT EGLWYS LLANFIHANGEL-YNG-NGWYNFA YN 29 OED

 

Y Sul dilynol, traddododd John Hughes bregeth angladdol iddi yng Nghapel Uchaf Pontrobert ar y testun ‘Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw’ (Philipiaid 1:21).

 

1806

1806

Cyhoeddi emynau Ann yn Casgliad o Hymnau (Y Bala: R. Saunderson, 1806), gyda rhagair gan Thomas Charles a’r emynau wedi eu golygu ganddo ef a Robert Jones (1745-1829), Rhos-lan, yn ôl pob tebyg. Ymddangosodd rhai o’r emynau tua’r un adeg yn ail argraffiad casgliad emynau Robert Jones, Grawn-sypiau Canaan (Y Bala: R. Saunderson, 1805-06). 1805 yw’r dyddiad ar wynebddalen yr argraffiad hwn o Grawn-sypiau Canaan, ond yn 1806 yr ymddangosodd gan mai dyna’r dyddiad a geir yn y coloffon ar ddiwedd y llyfr.

Mawrth 1806

Richard Davies yn cymryd tenantiaeth Dolwar Fach. (Enw John Evan Thomas sydd ar Lyfrau’r Rhent rhwng 1804 a 1806 er iddo farw yn Chwefror 1804.) Mae disgynyddion Richard Davies a’i wraig, Mary, yn byw yn Nolwar Fach hyd heddiw (er bod y tŷ presennol yn ddiweddarach na chyfnod Ann Griffiths).

Mai 1806

Thomas Griffiths yn symud o Ddolwar Fach i fyw at ei fam a’i frawd i’r Ceunant, Meifod, gan adael John Thomas yn Nolwar gyda’r pâr ifanc, Richard a Mary Davies.

 

1807

3 Ionawr 1807

Claddu John Thomas, brawd Ann, ym mynwent Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Ef oedd yr olaf o’r teulu i fyw yn Nolwar Fach.

 

1808

8 Ebrill 1808

Thomas Griffiths yn marw o’r darfodedigaeth a’i gladdu ym mynwent Eglwys Meifod ar 12 Ebrill 1808.