gan E. Wyn James
              Un peth pwysig i’w gofio am Ann Griffiths 
                yw iddi dderbyn rhywfaint o hyfforddiant barddol. Perthynai ei 
                thad, Siôn Ifan Thomas, i nythaid o feirdd gwlad, ac y mae 
                ambell ‘englyn’ o’i waith wedi goroesi. Yn eu 
                plith y mae un a gyfansoddodd wrth weld dyn tlawd o’r enw 
                Ifan Davies yn ceisio codi caban yn ymyl Melindwr, nid nepell 
                o Ddolwar Fach:
               Diofal yw gweled Ifan
                C’yd yn codi ei gaban;
                Mae rhai’n gomedd ’r hen gwman; – mae’r 
                gair 
                Yn wir fod y gŵr yn wan.
              Yn ôl tystiolaeth hen wraig a arferai gydchwarae 
                ag Ann Griffiths pan oeddynt yn blant, atebodd Ann ei thad â’r 
                englyn hwn:
               Os gwan ac egwan yw’r gŵr,
                Heb feddu fawr gryfdwr,
                Gwnewch ’deilad sad yn siŵr – i dda deulu,
                A rhowch Dduw ’n dalwr.
              Y canlyniad fu i Siôn Ifan Thomas fynd ati 
                ar ei draul ei hun i gynorthwyo Ifan Davies i godi ei gaban. Yn 
                ôl yr hen wraig a gofiai’r achlysur a’r englynion, 
                yr oedd Ann ar y pryd tua deng mlwydd oed.
                     Cofnodwyd yr englynion yn eu ffurf 
                uchod (yn 1863 neu 1864, yn ôl pob tebyg) gan berthynas 
                i Ann Griffiths – John Jones, Y. H., Llanfyllin – 
                mewn llyfr nodiadau a gedwir bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol 
                (LlGC 1071A). Maent yn ymdebygu o ran ffurf i’r ‘englyn 
                unodl crwca’, sef mesur ac ynddo’r un elfennau â’r 
                ‘englyn unodl union’ ond fod yr esgyll a’r paladr 
                wedi’u trawsosod. Fodd bynnag, erbyn iddynt gael eu cyhoeddi 
                am y tro cyntaf, yng nghyfrol Morris Davies, Cofiant Ann Griffiths 
                (1865) – cyfrol y bu John Jones yn cynorthwyo Morris 
                Davies i’w pharatoi – yr oedd yr englynion wedi troi 
                yn rhai unodl union. Dyma eu ffurf yn y gyfrol honno:
               Ai diofal gweled Ifan – yna c’yd
                Yn codi ei gaban?
                Mae rhai yn gomedd yr hen gwman,
                A’r gair yn wir fod y gŵr yn wan.
               Os gwan ac egwan yw’r gŵr – heb feddu
                Fawr foddion o gryfdwr,
                Gwnewch adeilad sad yn siŵr,
                I dda deulu – rhowch Dduw yn dalwr!
                    Er nad campweithiau 
                mo’r englynion yn y naill ffurf na’r llall, dengys 
                yr hanesyn nad peth dieithr mo barddoni i Ann Griffiths o gyfnod 
                cynnar yn ei hanes; a diddorol yw gweld ambell linell o gynghanedd 
                yn brigo i’r golwg yma ac acw yn ei hemynau yn ddiweddarach 
                – yn waddol, megis, o’i hyfforddiant cynnar.